Taith gerddorol Catrin i Rwsia.


Cyflwynodd Catrin Lewis, Dosbarth Llywelyn, roddion o ddol Rwsieg a baner Rwsia i'r ysgol wedi iddi ddychwelyd o St. Petersburg. Bu'n canu yno gyda chor ’Only Kids Aloud’ o dan arweiniad y maestro Valery Gergiev.

Cafodd ei dewis fel un o'r 84 aelod wedi iddi gael clyweliad gan Tim Rhys Evans, arweinydd ‘Only Men Aloud’. 

Bu'r cor yn perfformio 8fed symffoni Mahler eto yn ddiweddar ar lwyfan Canolfan y Mileniwm.

Rhannodd Catrin ei phrofiad gyda gweddill blant yr ysgol mewn cyflwyniad yn y gwasanaeth. 

 

Catrin Yn Cyflwynor Rhoddion  Catrin Yn Gwneud Cyflwyniad